Ganwyd yn Nhrefeglwys, Sir Drefaldwyn, 17 Medi 1875, mab y Parch. John Hughes ('Glanystwyth'). Addysgwyd ef yn ysgol Kingswood, Bath, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Diwinyddol Didsbury, Manceinion. Graddiodd yn B.A. a D.D. ym Mhrifysgol Llundain. Ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth Wesleaidd yn 1896 a bu'n gweinidogaethu yn Bromyard, Birmingham, Southport, Wallasey, Edinburgh, a Clapham (Llundain). Yn 1921 penodwyd ef yn brifathro cyntaf Wesley House, Caergrawnt. Bu llwyddiant mawr ar ei waith yno, ac anrhydeddwyd ef gan y brifysgol â'r radd o M.A. Pan ymddeolodd o'r swydd yn 1937 gwnaed darlun ohono gan Frank O. Salisbury ar draul awdurdodau Wesley House. Traddododd Ddarlith Fernley yn 1922, ac efe oedd llywydd olaf y gynhadledd Wesleaidd cyn i'r Wesleaid ymuno â'r Methodistiaid eraill. Ei brif weithiau cyhoeddedig oedd: The Ethics of Jewish Apocryphal Literature, 1909; Wesley and Whitefield, 1912; Faith and progress, 1919; Wesley's standards in the light of today, 1921; The Theology of Experience, 1922; The Kingdom of God, 1922; What is the Atonement? 1924; The School of Life, 1925; Christian Foundations, 1927; a The Christian Idea of God, 1935. Cyfrannodd hefyd i Apocrypha and Pseudepigrapha of the Old Testament (R. H. Charles) ac i Encyclopaedia of Religion and Ethics (Hastings). Priododd Marion Helen, merch R. Taylor, Colchester. Bu farw yn ddisyfyd 20 Awst 1940.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.