HUGHES, JOHN ('Glanystwyth'; 1842 - 1902), gweinidog Wesleaidd

Enw: John Hughes
Ffugenw: Glanystwyth
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1902
Priod: Emily Hughes (née Wilcox)
Plentyn: Henry Maldwyn Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod
Awdur: Edward Tegla Davies

Ganwyd 15 Ebrill 1842 yng Nghwm-magwr Isaf, ger y Cnwch Coch, Sir Aberteifi. Wedi ychydig addysg yn ysgol Llanfihangel y Creuddyn aeth yn was fferm (1854), yna am dymor i waith mwyn, dychwelyd am dymor yn was fferm, ac yna i chwarel ym Mlaenau Ffestiniog (1863). Dechreuodd bregethu yno. Aeth i ysgol Jasper House, Aberystwyth (1865). Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1867. Llafuriodd yn Nhreherbert (1867), Aberpennar (1868), Caerdydd (1869), Tre'r Ddôl (cylchdaith Aberystwyth) (1872); Trefeglwys (cylchdaith Llanidloes) (1873), Machynlleth (1876), Coed Poeth (1878), Caernarfon (1881), Llanrhaeadr Mochnant (1884), Llundain (1886), Rhyl (1889), Manceinion (1891), Lerpwl (Mynydd Seion) (1894). Bu'n oruchwyliwr y Llyfrfa (1897). Bu farw 24 Chwefror 1902.

Priododd Emily, merch y Parch. Henry Wilcox. Mab iddo oedd Henry Maldwyn Hughes. Golygodd Y Winllan, 1874-7; Y Gwyliedydd, 1890-2; Yr Eurgrawn, 1897-1902. Ef oedd golygydd y llyfr emynau newydd, 1900. Ysgrifennodd Arwrgerdd John Penri, Oesau Boreu y Byd, Bywyd Crist, Delw y Nefol (pregethau), Esponiad ar y Colosiaid, Cofiant Isaac Jones. Ef oedd cychwynnwr y mudiad i gael papur newydd enwadol, Y Gwyliedydd, 1877, a'r mudiadau i gael cymanfa Wesleaidd Gymreig, 1899, a rhannu talaith y Gogledd, 1902. Ef oedd yr ail orau ar y bryddest yn eisteddfod genedlaethol Aberystwyth, pan oedd yn efrydydd yn Jasper House, yr ail orau yn eisteddfod genedlaethol Llundain, 1887 - y gorau yn ôl 'Dafydd Morgannwg,' yr ail orau yn eisteddfod genedlaethol Llanelli, 1895. Yr oedd yn feirniad y bryddest yn eisteddfod Lerpwl, 1900. Ef oedd cadeirydd pwyllgor cyffredinol eisteddfod Llundain, 1887. Y mae ganddo amryw emynau adnabyddus. Etholwyd ef yn 1901 yn llywydd y gymanfa, ond bu farw cyn ymgymryd â'r swydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.