HUGHES, THOMAS MCKENNY (1832 - 1917), daearegwr

Enw: Thomas Mckenny Hughes
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1917
Priod: Mary Caroline Hughes (née Weston)
Rhiant: Margaret Hughes (née McKenny)
Rhiant: Joshua Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearegwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Frederick John North

Ganwyd 17 Rhagfyr 1832 yn Aberystwyth, mab Joshua Hughes, wedyn esgob Llanelwy. Cafodd ei addysg yn Leamington, Llanymddyfri, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu'n ysgrifennydd i'r Consul Prydeinig yn Rhufain, 1860-1, a bu yng ngwasanaeth y Geological Survey o 1861 hyd 1873, pryd y dilynodd Adam Sedgwick fel Woodwardian Professor of Geology yng Nghaergrawnt, cadair a lanwodd hyd flwyddyn ei farw. Etholwyd ef yn is-lywydd y Geological Society yn 1862, yn F.R.S. yn 1889, a chafodd fathodyn Lyell y Geological Society yn 1891. Cyhoeddodd dros hanner cant o ysgrifau yn rhoddi ffrwyth ei ymchwil fel daearegwr; y maent yn delio â'r creigiau yng Nghymru ac yn y ' Lake District,' Lloegr, a enwir yn 'pre-Cambrian' a 'Palaeozoic' ac â ffenomena ac â'r hyn a adawyd yn ystod oes y rhew ac ar ôl yr oes honno. Yn ystod y cyfnod y bu'n gwasanaethu'r Geological Survey a'i flynyddoedd cyntaf yng Nghaergrawnt y gwnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil hwn; wedi hynny yr oedd dyletswyddau ei swydd yng Nghaergrawnt yn mynd â mwy a mwy o'i amser. Llwyddodd i greu diddordeb mewn daeareg yn herwydd ei rwyddineb wrth draethu ar y pwnc; yr oedd ganddo hefyd ddawn a'i gwnâi'n hawdd iddo fod yn gyfeillgar â'r ieuanc yn ogystal â'r rhai hŷn yn y brifysgol. Priododd, 1882, Mary Caroline, merch canon G. F. Weston. Bu farw 9 Mehefin 1917 yng Nghaergrawnt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.