Ganwyd 7 Hydref 1807 yn New Mill ('Melin Llwyngwair'), Nanhyfer, Sir Benfro, mab Caleb a Margaret Hughes. Cafodd ei addysg yn ysgol Ystradmeurig a Choleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Stephan, lle y graddiodd yn B.D. yn 1868; cafodd radd D.D. gan archesgob Caergaint yn 1870. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1830 ac yn offeiriad yn 1831. Yr oedd dau frawd iddo yn offeiriaid hefyd - John Hughes (bu farw 1870), ficer Tregaron, a Jacob Hughes (bu farw 1877), ficer Llanrhian.
Bu Joshua Hughes yn gurad yn Llanbadarn a Chaerfyrddin cyn iddo ddyfod yn ficer Abergwili yn 1838 ac yn ficer Llanymddyfri yn 1845. Yr oedd yn fugail diwyd a ffyddlon ac yn gwbl efengylaidd ei bregethu; fel pregethwr yr oedd ei nerth yn deillio nid yn gymaint o huodledd a dawn fel siaradwr ag o'i ddifrifoldeb a'i argyhoeddiad. Llafuriodd yn ddibaid i hyrwyddo addysg - ysgolion yr Eglwys, ysgolion Sul, ac addysg uwchraddol. Yn y ddadl ynglyn â Choleg Llanbedr pont Steffan yr oedd ef o blaid symud y coleg i Aberhonddu er mwyn ei wneuthur yn rhan o Brifysgol Cymru.
Yn 1870 dewiswyd ef gan W. E. Gladstone yn esgob Llanelwy. Efe oedd y Cymro cyntaf a gafodd ei ddewis i'r esgobaeth honno er adeg yr esgob John Wynne. Bu cryn feirniadu ar y dewis ar y cyntaf - nid oedd Hughes yn wr prifysgol a buasai hyd yn hyn yn offeiriad plwyf yn unig. Yr oedd yn wladgarwr mawr - yn caru Cymru, ei hiaith, ei phobl, a lles ysbrydol pobl Cymru. Pregethai yn Gymraeg bob cyfle a gâi gan fynnu cael digon o wasanaethau Cymraeg. Claear a gwrthwynebus braidd oedd y gwyr tiriog - yr oedd y dylanwad Seisnig wedi ymestyn cymaint i'r esgobaeth. Bu llwyddiant mawr ar ei waith yn Llanelwy. Codwyd ysgolion newydd, atgyweiriwyd hen rai, a gwellawyd eu heffeithiolrwydd. Codwyd eglwysi newydd hefyd a threfnwyd i ddarparu a chynnal offeiriaid dwyieithog. Rhoes yr esgob sylw arbennig i addysg rhai a fwriadai gael eu hordeinio. Cynyddodd rhif y deoniaid gwlad o 13 i 16. Sefydlodd yr esgob fwrdd addysg yn yr esgobaeth yn 1870, cymdeithas i godi eglwysi yn 1871, a chynghrair esgobaethol yn 1878. Ceisiodd ddyfod i delerau da ag Anghydffurfwyr er gwaethaf cwerylon crefyddol blinion y dyddiau hynny. Llwyddodd i ennill parch gan bawb. Cyhoeddodd nifer o siarsau ymweliadol, pregethau, a phamffledi. Bu farw 21 Ionawr 1889 a chladdwyd ef yn Llanelwy.
Priododd Margaret, merch Syr Thomas McKenny, barwnig, a bu iddynt saith o blant - Thomas McKenny Hughes, M.A., F.R.S., athro daeareg ym Mhrifysgol Caergrawnt, Joshua Pritchard Hughes, esgob Llandaf (isod), a phum merch.
Mab Joshua Hughes. Ganwyd 13 Chwefror 1847 yn ficerdy Llanymddyfri. Cafodd ei addysg yn ysgol Llanymddyfri, ysgol Amwythig, ac yng Ngholeg Balliol, Rhydychen (B.A., 1868, M.A., 1876, a D.D. - trwy ddiploma - yn 1905). Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn Llanelwy (ar ran esgob Llandaf) yn 1871 ac yn offeiriad, yn Llandaf, yn 1872. Mewn un guradiaeth yn unig y bu - sef Castell Nedd, 1872-7. Bu'n ficer Newcastle (Penybont-ar-Ogwr) o 1877 hyd 1884 ac wedyn yn ficer Llantrisant am 21 mlynedd. Priododd Blanche, merch Archibald Campbell, a bu iddynt bump o blant.
Cysegrwyd ef yn esgob Llandaf ar 1 Mehefin 1905. Ymddeolodd ar 24 Chwefror 1931 ar ôl bod yn esgob am 26 mlynedd. Bu farw 8 Ebrill 1938 a chladdwyd ef yn Eridge, Sussex.
Yr oedd ei gyfnod fel ficer Llantrisant - a'i blwyf yn cyrraedd o Miscyn ym Mro Morgannwg bron cyn belled â Phontypridd - yn cydfynd â llawer o ddatblygiadau diwydiannol a drawsffurfiodd gymeriad y plwyf. Adeiladodd saith o eglwysi; yr oedd yn y plwyf 12 eglwys ac wyth o guradiaid. Yr oedd ei weinidogaeth ymroddedig yn ei wneuthur yn wr adnabyddus a gerid yn fawr gan y boblogaeth a oedd yn cynhyddu. Yr oedd wrth natur yn biwritanaidd ei ysbryd ac ni fynnai ddefnyddio moddion cludo ar y Sul a olygai lafur i eraill; yr oedd ei siwrneiau ar droed yn aml yn feithion a blinderus. Yr oedd yn efengylaidd o argyhoeddiad a'i dduwioldeb personol yn ddwfn. Nid oedd ganddo nemor gydymdeimlad ag Anglo-Catholigiaid. Gan ei fod yn credu'n gryf mewn dirwest ymladdodd yn erbyn meddwdod a gamblo. Dangosodd ei fod yn chwannog i fod yn gyfeillgar ag Anghydffurfwyr ac i ddeall eu safbwynt hwy, a chydweithredai yn rhwydd â hwy ar gwestiynau a materion a oedd o bwys i'r eglwys ac i'r capel.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.