Mab Hugh a Mary Hughes, Brynhaulog, Adwy'r Clawdd, sir Ddinbych. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol Evans, Minera, ac aeth oddi yno i weithio yn ariandy Kendrick yn Hope Street, Wrecsam. Ar ôl tymor byr yno aeth i felin bapur isaf Bersham i ofalu am y llyfrau cyfrifon, a phan fu Broseley y perchennog farw ymhen ysbaid fe barhaodd y felin i weithio o dan enw Hughes and Phillips. Priododd Anne Jones (1797 - 1827). Agorodd stordy papur yn Bank Street, Wrecsam, yn 1820, ac erbyn 1823 yr oedd ganddo siop lyfrau ac argraffdy yn 1 a 2 Church Street. Penodwyd Richard Hughes yn gofrestrydd cyntaf priodasau'r rhanbarth yn 1837, ac yn bostfeistr y dref yn 1840. Ymunodd ei fab Charles â'r fusnes yn 1848, a thrwy ddylanwad y llyfrau a'r gerddoriaeth a gyhoeddwyd ganddynt aeth tŷ cyhoeddi Hughes a'i Fab yn enwog ymhlith Cymry ym mhob rhan o'r byd. Gweithiodd yn ddiwyd ynglŷn â chrefydd a'r ysgolion Saboth yn ogystal ag yn ei fusnes. Bu farw ym Mrynhyfryd, Wrecsam, 12 Ionawr 1871.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.