Ganwyd 8 Mai 1803 yn Nhrawsfynydd. Bu'n cadw ysgol yn Ffestiniog, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn 1823 rhoddodd yr ysgol heibio ac aeth i fyw i Lanelltyd, ger Dolgellau; yn 1824 symudodd drachefn, i Fachynlleth y tro hwn, ac fel ' Thomas Hughes, Machynlleth,' y daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel pregethwr poblogaidd iawn. Teithiodd lawer ar hyd a lled y wlad ar gefn ei geffyl. ' Yr oedd ei lais yn wastad yn y cywair lleddf,' medd G.B.C. yn Cymru (O.M.E.), ' ac yn llawn dagrau, ac ni wrandewais neb erioed a fedrai dynnu dagrau o lygaid ei wrandawyr fel y medrai ef.' Ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa'r Bala, 8 Medi 1842. Tua 1864 symudodd i fyw ym Mhenmorfa, Sir Gaernarfon, ac oddi yno drachefn, yn 1883, i Gaergybi, i fyw gyda'i ferch. Yno y bu farw 5 Awst 1898. Yr oedd erbyn hynny yn ddolen gydiol â'r oes o'r blaen; bu'n gwrando ar John Evans, y Bala, yn pregethu, ac yr oedd John Evans wedi ei eni yn 1723. Yr oedd y ddwy oes yn pontio yn ymyl dwy ganrif gyfan. Ysgrifennodd Thomas Hughes ei atgofion i Cymru (O.M.E.) dan y pennawd ' Atgofion Glan Pherath,' yn 1894-5.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.