Ganwyd yn Llanelidan. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Edward Jones, Bathafarn (1801). Dechreuodd bregethu yn 1804, yn Llangynog, lle'r aethai i weithio er mwyn bod o gymorth i'r achosion yno a Llanrhaeadr Mochnant a Llanfyllin. Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth yn 1805. Priododd nith Sgwïer Vaughan, Penmaen Dyfi, â'i hachubasai rhag camdriniaeth pan oedd ar daith bregethu.
Llafuriodd yn Nolgellau (1806), Manceinion (1807), Dinbych (1808). Cadwai ysgol pan oedd yng Nghaernarfon (1811-2), Dolgellau (1812). Unwyd cylchdeithiau Dolgellau a Machynlleth (1816), ac yntau'n arolygwr, Caernarfon (1816), Dinbych a Llanrwst (1819), Llandeilo (1820). Unwyd cylchdeithiau Aberhonddu a Llandeilo (1821), ac yntau'n arolygwr; Caerfyrddin (1822), Merthyr Tydfil (1825), Caerdydd (1827), Llanidloes (1830), Biwmares (1832). Cerddodd yno. Anogwyd ef ym Mangor i beidio â mynd i Fiwmares am fod y colera yno. Yno yr aeth, gan yrru ei deulu i'r wlad. Pregethodd y Sul a nos Lun, a chynnal cyfarfod gweddi am bump fore Mawrth, a bu farw nos Fawrth (31 Awst 1832) o'r colera.
Wele enghraifft gyffredin o'i lafur (dyddlyfr, Hydref 1823): ' Pregethu 468 gwaith, teithio 3,224 milltir mewn blwyddyn.' Dychwelwyd cannoedd dan ei weinidogaeth.
Cyhoeddodd gofiannau, ysgrifau diwinyddol, pregethau, emynau, ac englynion yn Yr Eurgrawn; Casgliad o Emynau i'r Ysgol Sabbothol; a llyfr o farddoniaeth - Y Wenynen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.