Ganwyd 13 Mehefin 1862 yn Talywern Fach, Penegoes, ger Machynlleth. Goruchwyliwr yr olchfa yng ngweithfeydd plwm y Dyfngwm a'r Dylife oedd ei dad; hanai ei fam o linach 'Eos Morlais.' Symudasai ei deulu i fyw i Lechwedd Du, Dylife, ac yn yr ysgol eglwysig yno yr addysgwyd ef i ddechrau. Tua 13 oed cychwynnodd ar ei yrfa fel athro yn ysgol y Bwrdd yn Staylittle gerllaw. Ym Mawrth 1878 aeth i orffen ei dymor fel disgybl-athro i Ysgol Frutanaidd Llanbrynmair a gynhelid bryd hynny yn ysgoldy'r 'Hen Gapel.' Bu yno hyd ganol haf 1880, pryd yr apwyntiwyd ef i ofalu am ysgol Aberhosan, ac ymhen dwy flynedd enillodd ei drwydded fel athro. Oherwydd marw'r gweinidog daeth galw arno i ymarfer ei ddoniau cyhoeddus, a dechreuodd bregethu yno. Aeth wedyn i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, gan feddwl cymryd gradd: 'bu yn y coleg am flynyddoedd heb fawr llewyrch arno fel myfyriwr.' Derbyniodd alwad i Abermaw a'r Cutiau, ac urddwyd ef yno 28 Mehefin 1894. Symudodd i Bethel, Llanddeiniolen, Arfon, yng Ngorffennaf 1896, ac ym Medi 1905 i Bethesda, Arfon. Yn 1912 aeth yn weinidog cyntaf eglwys newydd Bryn Seion, Glanaman; bu farw yno 21 Tachwedd 1917, a chladdwyd ef ym mynwent capel Aberhosan.
Gŵr o ynni ac athrylith eithriadol mewn amryw gyfeiriadau; anodd meddwl am neb a gyflawnodd fwy o waith mewn cyn lleied o amser. 'Fel pregethwr yr oedd yn wreiddiol a newydd, ac ar waethaf parabliad lled anystwyth, yn effeithiol bob amser, oherwydd ei ddidwylledd amlwg.' Fel bardd cyfeirid ato fel arweinydd y 'Beirdd Newydd,' ac ar achlysur ennill ohono gadair eisteddfod Meirion gyda'i bryddest, 'Dydd Coroniad, Calan 1894', bu dadlau brwd yn y Wasg am yn hir. Rhoes heibio gystadlu yn fuan, a throes i sgrifennu rhyddiaith a hynny gyda chryn gamp. Fel athro plant nid oedd ei hafal, ac ef, ond odid, a fu â'r rhan amlycaf yng nghychwyn mudiad eisteddfodau plant a ddaeth i gymaint bri yn ddiweddarach.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.