REES, ROBERT ('Eos Morlais '; 1841 - 1892)

Enw: Robert Rees
Ffugenw: Eos Morlais
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1892
Rhiant: Margaret Rees
Rhiant: Hugh Rees
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 5 Ebrill (Sul y Pasg), 1841, yn Nowlais, Morgannwg, mab Hugh a Margaret Rees. Dygwyd ef i fyny ar lan afon Morlais, oddi wrth yr hon y cymerodd ei ffugenw. Collodd ei dad yn 8 oed, a dechreuodd weithio yn y pwll glo yn 9 oed. Meddai dalent arbennig fel adroddwr a chanwr yn blentyn. Cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth gan ei ewythr, ac astudiodd yntau lyfrau cerddoriaeth fel y daeth yn ddatganwr a cherddor da. Ymunodd â chôr dirwestol Libanus a arweinid gan David Rosser, ac ef a etholwyd yn olynydd i'r arweinydd pan ymddiswyddodd hwnnw. Llwyddodd i ennill y prif wobrwyon am ganu mewn eisteddfodau, ac yn 26 oed enillodd yn eisteddfod genedlaethol Caerfyrddin, 1867, am ganu ' Thou shalt break them ' (Handel). Enillodd hefyd y prif wobrwyon gyda'i gôr. Yr hyn a'i dug i sylw ac a enillodd iddo'r teitl, ' Tenor Cenedlaethol Cymru,' oedd gwaith John Griffith ('Y Gohebydd') yn mynd ag ef i eisteddfod leol yn Nhywyn, Meirionnydd, ac wedi iddo ennill y gwobrwyon â chymeradwyaeth y dyrfa fel datganwr a cherddor, yn ysgrifennu i'r Faner i ymosod arno, 'am iddo ef, ag yntau yn ddatganwr a cherddor mor alluog, gystadlu mewn eisteddfod leol.' Bu'r ysgrif yn foddion i dynnu sylw Cymru at 'Eos Morlais,' ac i'w gydnabod fel prif ddatganwr Cymru. Yn 1870 symudodd i fyw i Abertawe, ac i weithio yng Nglandwr, a phenodwyd ef i arwain y canu yn Soar, capel yr Annibynwyr, Abertawe. Cafodd gwrs o addysg gan David Williams, Coleg Hyfforddi Abertawe, yr unig addysg a gyfrannwyd iddo. Cymaint fu ei lwyddiant fel y rhoddodd ei waith i fyny, a rhoddi ei holl amser i gerddoriaeth. Penodwyd ef i arwain y canu yng nghapel Annibynnol Walter Road, Abertawe, a gwasnaethodd yno am dair blynedd. Gelwid arno i arwain cymanfaoedd ac i feirniadu, a gwnaeth ei ran i godi safon a chwaeth gerddorol trwy ei feirniadaethau. Perfformiodd amryw o'r prif weithiau, ac ef oedd arweinydd côr eisteddfod genedlaethol Abertawe, 1891. Bu farw yn ei gartref, 16 Henrietta Street, Abertawe, 5 Mehefin 1892, a chladdwyd ef ym mynwent capel y Methodistiaid, Aberdylais, ger Castellnedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.