Brodor o ddyffryn Tyfeidiog (Teme) yn sir Faesyfed. Ymhlith ei farddoniaeth ceir cywyddau i'r esgob Richard Davies, Wiliam Herbert, iarll Penfro, Mathew ap Morus o Geri, Siencyn ap Dafydd o Lanarthne, ac awdl i Lewys Gwyn o Lyn Nedd (Llanstephan MS 133 (71, 712), Llanstephan MS 30 (384), Hafod MS. 13 (197), Brogyntyn MS. 2 (529). Dysgir oddi wrth gopi (diwedd y 16eg ganrif) o'i Hanes Prydain (Peniarth MS 168 (178)) iddo fod yn bresennol yng ngwarchae Boulogne yn 1544. Ymddengys hefyd ei fod yn Babydd selog. Y mae Peniarth MS 138 a rhannau o Cardiff MS. 50 (sef 274-5, 293-356) yn ei law. Defnyddiwyd ei lawysgrifau ef gan Lewys Dwnn wrth baratoi Peniarth MS 268 . Dywedir bod Rhys Cain a Lewys Dwnn wedi canmol ei lawysgrifau, a bod yr ail fardd yn ddisgybl iddo. Canodd Lewys farwnad iddo pan fu farw ar 20 Gorffennaf 1581 (Peniarth MS 96 (371)).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.