HYWEL BANGOR (fl. 1540), clerwr

Enw: Hywel Bangor
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

Yr un, efallai, â Huw Bangor y dywedir yn The Cambrian Biography ei fod yn ei flodau rhwng 1560 a 1600. Cadwyd rhyw 18 o englynion Hywel Bangor, ac oddi wrth y rheini gellir casglu mai gŵr o Faelor ydoedd, a thebyg yw mai o Fangor Iscoed y cymerodd ei enw. Cyfansoddodd englynion ar newid siryfion y Fflint yn 1540. Gyferbyn ag un o'i englynion yn llawysgrif Llanstephan 41 y mae'r dyddiad 1577, ond nid yw'r berthynas rhwng y dyddiad a'r englynion yn glir. Os cywir llawysgrif Peniarth MS 267 (54) yn priodoli iddo ef englyn i fab Dafydd ab Edmwnd, wedi iddo werthu ei diroedd a chadw llyn Hanmer yn unig, yr oedd yn canu yn gynharach yn y ganrif, oherwydd rhwng 1486 a 1515 yr oedd Edward ap Dafydd yn gwerthu ei eiddo. Ysgrifennwyd rhan gyntaf llawysgrif Peniarth MS 179 gan Huw Bangor neu Hugh ap William Bangor yn 1537, ond gall hwn fod yn un o deulu'r Bangoriaid y ceir eu hachau gan Lewis Dwnn (ii, 252).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.