HYWEL CILAN (fl. tua diwedd y 15fed ganrif), bardd

Enw: Hywel Cilan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

y cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau. Ymddengys mai brodor o Edeirnion ydoedd; dywedir yn Cwrtmawr MS 454B (140) mai gŵr o Landderfel oedd; yn Cymru (O.J.) dywedir mai ef oedd perchennog Llawr y Cilan yn Llandrillo - a dyma esboniad tebygol ar enw'r bardd. Canu traddodiadol i bendefigion Gogledd Cymru yw'r rhan fwyaf o'i farddoniaeth. Ymhlith y rheini ceir aelodau teuluoedd Presaddfed, Llwydiarth (Môn), Deuddwr, Rhûg, Moelyrch, a'r Rhiwlas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.