IEUAN DYFI (1461? - 1500)

Enw: Ieuan Dyfi
Dyddiad geni: 1461?
Dyddiad marw: 1500
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Leslie Harries

Nid oes dim ar gael ynghylch hanes bywyd y bardd hwn, ac ychydig, ysywaeth, yw'r ffeithiau a geir o'i ganu ef ei hun. Prydydd o Aberdyfi ydoedd a flodeuai tua 1490, yn ôl Dr. John Davies o Fallwyd. Bardd serch yn anad dim ydoedd, yn canu i ferch o'r enw Anni Goch. Canodd gywydd i brofi cymaint twyll gwragedd drwy'r oesoedd, a chan amled copïau ohono mewn llawysgrifau gwelir iddo ennill cryn boblogrwydd ymhlith beirdd a chopïwyr y cyfnod. Mynnodd Gwerful Mechain ateb iddo â'i chabl miniog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.