GWERFUL MECHAIN (1462? - 1500), bardd

Enw: Gwerful Mechain
Dyddiad geni: 1462?
Dyddiad marw: 1500
Rhiant: Hywel Fychan
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Leslie Harries

Y cwbl a wyddys amdani yw mai merch Hywel Fychan o Fechain ym Mhowys oedd hi, ac ategir hynny yng nghywydd Dafydd Llwyd yn danfon Llywelyn ap y Gutun yn llatai ati. Gwyddys fod darnau o'i chywyddau yn nofio ar gof gwlad yn y 19eg ganrif, oblegid cyfeiria ' Ap Vychan ' a Syr Owen M. Edwards at hynny. Cymysgir rhyngddi â Gwerful, ferch Madog o Fro Danad, yn Eminent Welshmen ac Enwogion Cymru; nid i Werful Mechain y farddes y canodd Guto'r Glyn. Pa fodd bynnag, ni wyddys ond y nesaf peth i ddim amdani. Un yn canu yn ôl ffansi'r foment oedd Gwerful Mechain; canodd gywydd gwych i'r Iesu yn ei ddioddefaint; lluniodd ambell englyn trawiadol, cynhyrfodd wrth wragedd eiddigus a beirdd gwawdlyd cyffelyb, fel Ieuan Dyfi, Llywelyn ap Gutun, a hynny'n finiog-fras hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.