Efallai ei fod yn frodor o blwyf Aberdaron; ceir cywydd gan Huw ap Richard ap Sion ap Madog o Bodwrdda yn gofyn iddo ' beth oedd yn i ddal ef allan o'i wlad … ' Fe'i graddiwyd yn delynor yn eisteddfod gyntaf Caerwys. Bu'n 'ymryson' a Huw ap Richard, a gwelir oddi wrth yr 'ymryson' honno ei fod yn clera - yn y Penrhyn (plwyf Llandegai), Raglan (sir Fynwy), etc. Canwyd marwnad iddo yn 1567 gan William Cynwal.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.