INGRAM, JAMES (bu farw 1788), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gweinidog gyda'r Annibynwyr wedyn

Enw: James Ingram
Dyddiad marw: 1788
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gweinidog gyda'r Annibynwyr wedyn
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

ni wyddys pa bryd y ganwyd ef, ond ei gartref oedd Cwm Brith ym mhlwyf Cefn-llys, sir Faesyfed (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, xxxv, 47). Daeth yn llencyn dan ddylanwad Howel Harris, ac ym mis Tachwedd 1742 (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, xxxv, 24) yn Errwd, cytunwyd iddo fod yn glerc a chydymaith i Harris ar ei deithiau; efe, ar ôl 1743, a gadwai gofnodion y sasiynau, ac y mae llawer o'i waith fel copïydd llythyrau Harris i'w weld ym mhapurau Trefeca. Cynghorai hefyd; yn wir, fe'i cofir yn bennaf am yr helynt a fu pan gipiwyd ef i'r fyddin yn 1744 (Y Tadau Methodistaidd , i, 222-3) - ffurf ar erlid cynghorwyr Methodistaidd oedd hon, oblegid gan nad oedd Ingram yn fawr talach na phum troedfedd, nid oedd mewn gwirionedd yn atebol i ofynion byddin na llynges; ar ôl cryn ymdrechion gan Harris a Marmaduke Gwynne a'r iarlles Huntingdon ac eraill, rhyddhawyd Ingram ac ailddechreuodd gynghori. Y mae yng nghasgliad Trefeca ryw ddeugain o lythyrau a basiodd rhyngddo ef a Harris ac eraill, yn ymestyn o Ionawr 1743 hyd Orffennaf 1750. Ni lynodd wrth Harris yn yr ymraniad - yn wir, y mae'r ohebiaeth rhyngddynt yn prinhau o 1747 ymlaen. Dywed cofnod Morafaidd yn Hwlffordd (Cymm., xlv, 34) iddo fynd at yr Annibynwyr a marw'n weinidog Annibynnol yn Llwydlo. Ysywaeth, gedy'r cofnod hwn fwlch o gryn ugain mlynedd yn ei hanes, oblegid gweinidog Annibynnol Llwydlo (Corve Street) ar y pryd oedd Jenkyn (neu Jenkins - Cymro, gyda llaw), ac yn ôl dyddlyfr cynulleidfa Forafaidd Llanllieni (Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1935, 16), yn 1770 y bu hwnnw farw; yna (Elliot, Congregationalism in Shropshire, 102), 'the next pastor was Mr. Ingram of Maesgronnin, Brecon [Maesyronnen ym Maesyfed]; this pastor died in 1788, and was buried in the chapel yard.' Nid oedd Ingram, fodd bynnag, yn 'weinidog' ym Maesyronnen, oblegid y mae olyniaeth bugeiliaid yr eglwys honno'n weddol ddifwlch rhwng 1748 a 1775 (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, ii, 528) heb unrhyw sôn amdano ef. Tebyg mai aelod o'r eglwys (led-Fethodistaidd) honno oedd Ingram, ac y byddai'n pregethu'n gynorthwyol ynddi ac yn yr ardaloedd cyfagos.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.