Canodd awdl i esgob Bangor (The Myvyrian Archaiology of Wales , 317-8) 'i ymliw ag ef am esgeuluso beirdd a mawrhau cerddorion.' Llinynnir toddeidiau yn y gerdd hon, ac yn ôl Cerdd Dafod, 339, awdl a ganwyd yn 1322 yw'r gynharaf y gellir ei dyddio lle y gwneir hyn. Yn awdl Iorwerth Beli, ceir cipdrem ar gyflwr a safbwynt beirdd y cyfnod wedi cwymp Llywelyn. Bellach y mae'r beirdd a ymfalchïai yn nhraddodiad y penceirddiaid yn troi at yr esgob, gan ddisgwyl iddo ef mwyach ymddwyn fel ' Pendefig, gwledig gwlad y Brython,' a chan ei atgoffa o urddas y bardd yn llys Maelgwn gynt. Ond nid yw'r esgob yn dewis cynnal y traddodiad hwn o gwbl. Esgeulusa feirdd, a rhydd urddas a dillad gwych ar ' wehilion ' cerdd, ac i ' iangwyr Saeson,' gyda'u ' dwrdd clustiau,' eu ' cân berchyllson debyg,' eu cyrn a'u tabyrddau, ac fe'u perchir am wybod Saesneg. Rhaid felly bod yr esgob yr edliwid hyn iddo yn Gymro, ond yn gefnogol i Saeson a'u difyrrwch. Canwyd yr awdl felly, gellid meddwl, cyn 1327, a'r tebyg yw mai yn ystod esgobaeth Anian Sais y gwnaed, sef rhwng 1309 a 1327.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.