Yr oedd ei ethol ef yn esgob - fe'i cysegrwyd yn Staines ar 21 Mehefin 1215, ychydig ddyddiau wedi i Magna Carta gael ei selio - yn fuddugoliaeth i ymdeimlad cenedlaethol y Cymry yn y frwydr hir ynglŷn â statws esgobion ac esgobaeth Tyddewi ac yn oruchafiaeth i bolisi Llywelyn Fawr. Yr oedd Iorwerth yn ŵr o gymeriad da ac yn Gymro pur o ran gwaed (ni wyddys ddim am ei dras) ac eto nid oedd yn anghofio nac yn anwybyddu ei ddyletswydd yn rhinwedd y llwon a dyngasai i'r Goron ac i archesgobaeth Caergaint, a bu'n mynychu cynghorau'r brenin ac yn cyfryngu rhwng y Cymry a'r Saeson ar waethaf y perygl o beidio â boddio croniclydd ei hen abaty yn Talyllychau. Mewn gwirionedd, ychwanegodd yr abaty at ei gyfoeth yn fawr yn rhinwedd rhoddion a grantiau o eglwysi a ganiatawyd iddo gan Iorwerth yn ystod ei dymor fel esgob. Gadawodd argraff ddofn ar ei esgobaeth hefyd trwy ddiwygio cyfansoddiad y cabidwl ac ailadeiladu rhannau o'r eglwys gadeiriol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.