Ganwyd yn Llanilar, Sir Aberteifi, 11 Gorffennaf 1820. Yr oedd ei dad yn arwain y canu yn yr eglwys, a chafodd y mab gyfle i ddatblygu ei ddawn fel cantor. Meddai lais da, a chynigiodd bonheddwr o Lundain gael lle iddo yng nghôr ei eglwys, ond gwrthododd ei rieni. Cafodd rai gwersi gan Richard Mills, Llanidloes, pan oedd hwnnw ar ei deithiau trwy'r wlad, a chyhoeddodd ddwy dôn o'i waith yn Caniadau Seion, ac ymddangosodd tair arall yn yr Arweinydd Cerddorol. Yn y Ceinion (' Hafrenydd ') ceir y dôn ' Llanilar ' ganddo, ac y mae ' Bwth fy Nhad ' yn Y Cerddor Cymreig, Rhif 36. Bu'n byw yn Llundain am flynyddoedd, a chafodd ei ddewis yn arweinydd i'r Gymdeithas Gerddorol Gymreig. Yn ei flynyddoedd olaf trigai yn yr Eglwys Newydd ger Caerdydd. Credir iddo farw yn 1890, gan na cheir ei enw yn Directory y dref y flwyddyn honno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/