Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

JAMES, JAMES ('Iago ap Iago '; 1818 - 1843), prydydd

Enw: James James
Ffugenw: Iago ap Iago
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1843
Rhiant: James James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prydydd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Rhys Maldwyn Thomas

Ganwyd yn Defynnog, sir Frycheiniog, 14 Mawrth 1818, mab James James, masnachwr. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ac yn breifat. Er yn wannaidd ei iechyd ymroddodd i astudio ac ystyrrid ef yn ieithydd da. Bu farw 30 Gorffennaf 1843 yn 25 oed. Yn y mesurau rhydd yr ysgrifennodd ei farddoniaeth, ac ymddangosodd darnau o'i waith, ynghyd ag erthyglau, yn yr Eurgrawn a chylchgronau eraill. Ysgrifennodd ei frawd, Morgan James, fywgraffiad byr iddo, a chasglu ei waith prydyddol. Golygwyd y cwbl gan I. Jenkins, a'i gyhoeddi gan Thomas Williams, Crughywel, yn 1844.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.