Ganwyd yn Tregolwyn, Bro Morgannwg. Pan yn blentyn tair blwydd collodd ei olwg. Er ei amddifadu o fanteision addysg foreol, daeth yn awdur nifer o emynau a phenillion. Cyhoeddwyd llawer o'i gyfansoddiadau: Seren Bethlehem (Penybont, 1849; ail arg., Aberd âr, 1865); Casgliad o Emynau Gwreiddiol (Aberdâr - heb ddyddiad), wedi ei gyfieithu gan Isaac Jenkins; Twyni Tregolwyn (Aberdâr, 1864). Yr oedd yn aelod gyda'r Wesleaid yn Nhregolwyn. Bu farw Mawrth 1869, a'i gladdu ar y 19eg o'r mis yn Nhregolwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/