JAMES, JOHN (1777 - 1848), gweinidog y Bedyddwyr, emynydd, rhwymwr llyfrau, ac argraffydd

Enw: John James
Dyddiad geni: 1777
Dyddiad marw: 1848
Priod: Catherine James (née Davies)
Rhiant: Elizabeth John (née Jones)
Rhiant: James David John
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr, emynydd, rhwymwr llyfrau, ac argraffydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn Aberystwyth 29 Awst 1777, yn blentyn hynaf o wyth i James David John ac Elizabeth Jones. Bedyddiwyd ef yno 27 Mawrth 1796, ac ymaelododd yn eglwys Bethel. Prentisiwyd ef, fel ei dad, yn grydd, ond ym Medi 1799, dechreuodd bregethu, ac wedi cwrs o addysg yn Aberteifi ac Aberystwyth fe'i hordeiniwyd yn gyd-weinidog â Samuel Breeze ar Bethel a'i changhennau. Wedi cyfnod o weithgarwch anghyffredin yn y dref a'r ardaloedd o gwmpas, symudodd, ym Mawrth 1817, i Bont-rhyd-yr-ynn, sir Fynwy, ac oddi yno, ym Mai 1827, i Benybont, Morgannwg, lle y bu farw 30 Ionawr 1848. Ar 30 Medi 1804 priododd Catherine Davies, un o'r aelodau ym Methel, a ganed iddynt dri o blant.

Dysgodd hefyd y grefft o rwymo llyfrau, ac ym Mai 1808, wedi cwrs o bedwar mis yng Nghaerfyrddin, agorodd siop lyfrau. Ym Mai 1809, sefydlodd wasg argraffu yn ei dŷ yn Heol y Bont, Aberystwyth - y wasg gyntaf yn y dre, ond ni wyddai ddim am argraffu, a chafodd gymaint o golled nes gorfod iddo, ym Medi 1812, werthu ei ran o'r fusnes i'w bartner. Menter bennaf y wasg oedd cyhoeddi yn 1811 Pigion o Hymnau o'i waith ef ei hun.

Cyhoeddodd hefyd Etholedigaeth wedi ei Hystyried mewn Pregeth (Caerfyrddin, 1808), a Hanes Cymdeithas Llundain er Taeniad Cristianogrwydd y'mhlith yr Iuddewon (Aberystwyth, 1811). Cadwyd pregethau, llyfr cofnodion, a phethau eraill o'i eiddo yn NLW MS 692C .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.