JAMES, JOSHUA (1665 - 1728), un o weinidogion cynharaf y Bedyddwyr yn Llanwenarth.
Enw: Joshua James
Dyddiad geni: 1665
Dyddiad marw: 1728
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: un o weinidogion cynharaf y Bedyddwyr
Place: Llanwenarth
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins
Derbyniwyd ef i'r eglwys yn 1689. Yn 1689 gelwir ef yn ‘weinidog’ (cynorthwyol i William Prichard), ac wedi marw Prichard, tua 1708, arno ef yr oedd llawn ofal yr eglwys. Yr oedd yn ŵr o ddylanwad yng nghylchoedd Bedyddiedig Llundain a Bryste. Bu farw Awst 1728, yn 63 oed, a chladdwyd yn Llanwenarth.
Awdur
- Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969), Bangor
Ffynonellau
- Joshua Thomas, Hanes y Bedyddwyr ymhlith y Cymry (ail arg.), 219-22.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/