Ganwyd ym mhlwyf Llangan, Sir Benfro, a maged ef (wedi iddo golli ei rieni) gan ei daid yn Llanglydwen, Sir Benfro. Bu yn ysgol Glandwr dan ‘Shôn Gymro’ a'r Parch. W. Davies, Rhydyceisiaid. Derbyniwyd ef yn aelod yn Hebron, Penfro, ym Mehefin 1848, a dechreuodd bregethu yno 14 Awst 1853. Bu yng Ngholeg Caerfyrddin, 1855-9. Ordeiniwyd ef, 18 Rhagfyr 1859, yn Llansantffraid-ar-Lai, Sir Forgannwg, a chymerth ofal Eglwys Newydd (Whitchurch) a'i ordeinio yno 2 Chwefror 1860. Bu'n gweinidogaethu yn Capel Ifor, Dowlais, 1869-75, Moreton-in-Marsh, sir Gaerloyw, 1875-9, March, sir Gaergrawnt, 1879-95 a 1899-1902. Ymneilltuodd yn 1915 a bu farw 17 Ebrill 1919.
Bu'n gymwynaswr hael ei ysgrifau i lenyddiaeth gylchgronol Cymru. Cyhoeddwyd stori o'i eiddo, ‘Edwin Powel,’ yn Seren Cymru, 1856-7. Bu'n golygu Cyfaill y Werin, 1862, a cholofn barddoniaeth Y Twr (Aberdâr) am dymor. Ysgrifennodd lawer i'r Beirniad (yr hen), Y Tywysydd, Y Diwygiwr, a Cennad Hedd. Ei faes arbennig oedd hen hanesion lleol ac eglwysig a phortreadu hen gymeriadau megis ‘Siams Dafydd.’ Ei ddau brif waith oedd Hanes Cymanfaoedd yr Annibynwyr, 1867-9, pum rhan, a Hanes Eglwys Glandwr, 1902.
Cyhoeddwyd ei nofel Habakkuk Crabb yn Lerpwl yn 1901. Rhoddwyd iddi glawr gwahanol yn ddiweddarach gyda theitl newydd — Croesi'r Bont, sef anturiaethau H.C.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/