Ganwyd ym Mwlch-yr-helygen, plwyf Llanarth, 5 Mawrth 1804, ond symudodd ei rieni - David a Mary Davies - i fferm Castell-y-geifr, gerllaw, yn fuan wedyn. Cawsai ei dad well addysg na'r cyffredin, ac ef oedd athro cyntaf ei fab, ond yn 7 oed fe'i rhoed dan ofal Dr. Thomas Phillips yn ysgol y Neuaddlwyd. Dechreuodd bregethu yn ysgol Neuadd-lwyd, 1 Gorffennaf 1819, a derbyniwyd ef i Goleg y Drefnewydd yn 1822. Y Parch. Edward Davies oedd yr athro, ac ' S.R. ' a David Rees, Llanelli, ymhlith ei gydfyfyrwyr. Cafodd gyfle yno i feistroli elfennau Hebraeg, Arameg, a Syrieg yn ogystal ag i ymberffeithio mewn Groeg a Lladin a diwinyddiaeth. Cafodd alwad ar brawf o chwe mis i Landŵr, Penfro, ac ordeiniwyd 28 Mawrth 1827. Ymhen dwy flynedd sefydlodd eglwys Moreia, Llanwinio, ac yn 1863 rhoes Glandŵr heibio, a'i gyfyngu ei hun i Foreia, hyd ei farw, 16 Rhagfyr 1884. Bu'n weinidog da a phregethwr sylweddol, yn arweinydd i'w gylch a'i gyfundeb, ac yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn 1873. Ysgrifennai'n aml i'r cyfnodolion o dan yr enwau ' Siôn Llethi,' ' Castellanus,' a ' Siôn Gymro.' Ymhyfrydai mewn dadl megys honno yn erbyn ' J.R. ' ar ' Pregethu Dychmygion ' yn Y Dysgedydd, 1850-2.
Rhagorodd fel cyfieithydd ac esboniwr. Cyhoeddodd Y Proffwydi Byrion yn 1881, cyfieithiad o'r Hebraeg yn cynnwys darlleniadau ymyl y ddalen o'r hen gyfieithiadau Groeg, Syrieg, a Lladin, a nodiadau esboniadol. Y mae'r gwaith yn ffrwyth ysgolheictod a 40 mlynedd o lafur lled gyson. Ceir hefyd ymhlith ei bapurau Llyfr Coheleth a Llyfr Hosea - dau gyfieithiad; Horae Petrinae, darlithiau ar epistolau Pedr; Flores Poetici, casgliad o'i farddoniaeth. Cyhoeddodd hefyd Llethi, Afonig Llanarth gyda Sylwadau Achlysurol, yn 1868, ond nid oes iddo le uchel fel bardd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.