Ganwyd 7 Mawrth 1825 yn Aberdâr, mab Morgan ac Ann James. Derbyniodd ei addysg gerddorol yn nosbarthiadau Rosser Beynon. Meddai lais da, a dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel Bethesda, Merthyr, yn 1845. Sefydlodd gymdeithas gerddorol ac enillodd lawer o wobrwyon mewn eisteddfodau. Cyhoeddodd y gymdeithas Organ y Cysegr, sef casgliad o alawon cysegredig wedi eu trefnu gan Robert James. Yr oedd yn gyfansoddwr da, a bu amryw o'i anthemau yn boblogaidd ym Merthyr a'r cylch. Ceir tôn yn Telyn Seion (Rosser Beynon) dan yr enw ' Aberfan ' o'i waith.
Yn 1853 priododd Ann Parry (chwaer i'r Dr. Joseph Parry) ond bu hi farw yn 1855. Aeth i Awstralia yn 1857, ac arhosodd yno bum mlynedd. Daeth yn ôl i Gymru, a bu'n cynnal cyngherddau am chwe mis. Ymfudodd yr ail waith, i Unol Daleithiau America, ac aeth a'i deulu yng nghyfraith gydag ef, gan ymsefydlu yn Dannville, Pennsylvania. Symudodd oddi yno i Ashland i swydd ' Clerk of the Courts of Lucerne County ' yn 1876, a thrachefn i Wilkes-barré, lle y bu farw 6 Hydref 1879.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.