Ganwyd 15 Mawrth 1833, yn fab i Thomas ac Anne James, Tynrhos, Llanfihangel-genau'r-glyn. Bu hyd 15 oed yn ysgol ramadeg y pentre (lle y cafodd Lewis Edwards yntau ei ysgol); yna bu'n fugail ar dir ei dad. Bwriadai ei dad iddo fod yn lledrwr yn Aberaeron, ond mynnai crefyddwyr capel y Garn iddo fynd yn bregethwr, gan ei fod mor weithgar yn yr ysgol Sul a chyda chaniadaeth y capel. Felly anfonwyd ef (1853) i ysgol yng Nghaerlleon Fawr, ac oddi yno (1855) i Goleg y Bala; yn 1859, ymaelododd ym Mhrifysgol Llundain, ac yn 1862 graddiodd ynddi. Bu'n bugeilio eglwys y Garn am rai misoedd, ac eglwysi Aberdyfi a'r Tywyn o Hydref 1863 hyd Ionawr 1866; yna aeth i Moss Side, Manceinion, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu farw 19 Hydref 1905. Yr oedd wedi tyfu'n ŵr blaenllaw iawn yn ei gyfundeb; bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1888 ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1892. Pregethwr sylweddol, a thrwm yn wir, oedd ef; ond yn ei ysgrifau yn Y Traethodydd a'r Geninen a chyfnodolion ei enwad yr oedd ar brydiau fwy o ysgafnder. Heblaw llawlyfr ar yr epistolau bugeiliol, cyhoeddodd, 1898, Yr Eglwys, ei Sacramentau a'i Gweinidogaeth - ei ' Ddarlith Davies ' yn 1897. Bu'n briod ddwywaith.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.