JAMES, WILLIAM (1836 - 1908), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: William James
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1908
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nhredel, Mathri, yn fab i lafurwr, a phrentisiwyd yn 15 i saer coed (hyd ddiwedd ei oes, hoffai'r gwaith hwn); aeth i Gaerdydd yn 19, ond ymhen y flwyddyn symudodd i Aberdâr. Dechreuodd bregethu yno (yn eglwys Bethania) yn 1863, ac yn 1865 aeth i Drefeca. Yn 1870, galwyd ef i fugeilio Bethania, Aberdâr. Bu farw 23 Gorffennaf 1908. Llanwodd nifer mawr o swyddi yn ei gyfundeb; bu'n llywydd cymdeithasfa'r De yn 1902-3, yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1895, ac yn ' Ddarlithydd Davies ' yn 1902. Heblaw y ddarlith honno (Christianity the Goal of Nature), cyhoeddodd ddwy ran o Llawlyfr yr Efengylau, 1888-90, a chyda John Morgan Jones, Cofiant a Phregethau David Saunders (ei ragflaenydd ym Methania), 1894; a chryn nifer o ysgrifau yn y cyfnodolion. Fel pregethwr yr enillodd fwyaf o enw, a chyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau yn 1910.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.