JENKINS, JOHN DAVID (1828 - 1876), clerigwr, ieithydd, dyngarwr, ac 'Apostol gwŷr y rheilffyrdd'

Enw: John David Jenkins
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1876
Rhiant: Maria Dyke
Rhiant: William David Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, ieithydd, dyngarwr, ac 'Apostol gwŷr y rheilffyrdd'
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Dyngarwch; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Watkin William Price

Ganwyd ym Merthyr Tydfil, 30 Ionawr 1828, mab William David Jenkins (bu farw 1834), Castellau Fach, Llantrisant, Sir Forgannwg, a Maria, gweddw Thomas Dyke, fferyllydd, Merthyr Tydfil. Cafodd ei addysg yn ysgol Taliesin Williams ('Ab Iolo') ym Merthyr Tydfil, yn ysgol ramadeg y Bont-faen, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (B.A. 1850, M.A. 1852, B.D. 1859, D.D. 1871). Daeth yn Hebreydd da yn Rhydychen, ac yn hyddysg hefyd mewn Lladin a Groeg; dysgodd rai o ieithoedd modern Ewrop yn ddiweddarach. Ordeiniwyd ef yn offeiriad ar 15 Hydref 1852, ac aeth i Benrhyn Gobaith Da, De Affrica. Yn gynnar wedi iddo lanio yno anfonwyd ef i Pietermaritzburg, Natal, 20 Ionawr 1853. Bu yno chwe blynedd - yn gweinidogaethu fel caplan i'r milwyr Prydeinig, ac i rai o'r brodorion hyd nes yr amharwyd ar ei iechyd. Gwnaethpwyd ef yn ganon Pietermaritzburg gan yr esgob Colenso yn 1856.

Dychwelodd i Brydain a bu mewn gwahanol swyddi yn Rhydychen am gyfnod. Rhoes sylw arbennig i weithwyr y rheilffyrdd, a daeth i gael ei alw yn ' Railmen's Apostle.' Bu'n brysur hefyd yn ysgrifennu hanes yr Eglwys Gristnogol. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn Rhydychen yn 1869 o dan y teitl The Age of the Martyrs, eithr erys yr wyth gyfrol arall heb eu cyhoeddi; cafwyd hefyd argraffiad Cymraeg (Caerdydd, 1890) o'r gyfrol gyntaf.

Dewiswyd Jenkins yn ficer Aberdâr, 7 Mawrth 1870. Bu'n weithgar yno ac, ymhlith pethau eraill, yn gefnogydd i ' Gôr Mawr Caradog.' Bu farw 9 Tachwedd 1876.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.