JENKINS, JOHN (1808 - 1884), bargyfreithiwr a dyn cyhoeddus

Enw: John Jenkins
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1884
Rhiant: David Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a dyn cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab i David Jenkins (adeiladydd), a gor-ŵyr i Lewis Rees; ganwyd 21 Awst 1808 yn Abertawe, ac addysgwyd yng Nghaerfyrddin (1824-6) ac yn Glasgow (M.A., 1831). Ar ôl cyfnod fel gweinidog Undodaidd (a chadw ysgol) yn Yeovil (1832-7) a Bath (1837-9), dychwelodd i Abertawe ac agor ysgol yno. Yr oedd yn ddarlithydd cyflog yng Ngorllewin Cymru dros yr ' Anti-Corn-Law League.' Penodwyd ef yn ddirprwywr cynorthwyol i gomisiwn 'y Llyfrau Gleision ' yn 1846, ond diddymwyd y penodiad am ei fod yn Undodwr - bu er hynny'n ddirprwy mewn ymholiad cyffelyb yn nes ymlaen (1858-9). Yn 1847, cychwynnodd newyddiadur, y Swansea and Glamorgan Herald, a bu'n ei olygu am 10 mlynedd. Aeth yn fargyfreithiwr (o Gray's Inn) yn 1865, a symudodd i Lundain i ddilyn y gyfraith. Bu farw 14 Hydref 1884.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.