JOHNES, JOHN (1800 - 1876), bargyfreithiwr a barnwr llys sirol

Enw: John Johnes
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1876
Priod: Elizabeth Johnes (née Edwards)
Plentyn: Elizabeth Hills (née Johnes)
Rhiant: Elizabeth Johnes (née Bowen)
Rhiant: John Johnes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a barnwr llys sirol
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Herbert John Lloyd-Johnes

Mab John Johnes (D.L., U.H., uchel siryf sir Gaerfyrddin, 1803), Dolau Cothi, Sir Gaerfyrddin, ac Elizabeth, merch John Bowen, Maes, Llanwrthwl. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen. Priododd, yn 1822, Elizabeth, merch y Parch. John Edwards, Gileston Manor, Sir Forgannwg. Cafodd ei wneuthur yn fargyfreithiwr (o'r Inner Temple) yn 1831. Bu'n gomisiynwr cynorthwyol o dan ddeddf cyfnewidiaeth y degwm ac yn gweithredu gyda'r ' Admiralty, Copyhold, Enclosure, and Lunacy Commissions.' Fe'i dewiswyd yn farnwr y llys sirol, adran Caerfyrddin, yn 1847, bu'n ' Recorder ' bwrdeisdref Caerfyrddin, 1851-72, ac yn gadeirydd y sesiwn chwarter, Sir Gaerfyrddin, 1853-72. Yr oedd yn ustus heddwch ac yn un o ddirprwy-raglawiaid y 'Tair Sir'; bu hefyd yn dal swyddi uchel yn Urdd y Meistri Rhyddion. Yn ystod terfysgoedd 'Beca' gwnaeth Johnes lawer iawn i gadw ei ardal ef ei hun yn ddiderfysg, ac yn 1843 cyhoeddodd An Address to the Inhabitants of Conwil-Caio; cyhoeddwyd argraffiad Cymraeg hefyd gan William Rees, Llanymddyfri. Heblaw bod yn gyfreithiwr galluog yr oedd yn hynafiaethydd da ac yn cymryd diddordeb mewn amaethyddiaeth. Ar 19 Awst 1876 fe'i llofruddiwyd yn Nolau Cothi gan ei fwtler.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.