JONES, DANIEL (1757 - 1821), clerigwr Methodistaidd

Enw: Daniel Jones
Dyddiad geni: 1757
Dyddiad marw: 1821
Priod: Joan Jones (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd c. 1757, brodor, fe dybir, o Lanboidy, Sir Gaerfyrddin. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1781 a'i drwyddedu'n gurad Pencarreg, eithr curad Llanybydder oedd pan ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1782. Daeth i Radyr, Morgannwg, c. 1785, a bu'n gurad yno weddill ei oes. Priododd, 1792, Joan, merch Edmund Williams, Sain Ffagan. Cefnogai'r Methodistiaid, a phregethai yn eu capeli; deuent hwythau i gymuno'n fisol am flynyddoedd i eglwys Radyr. Brodyr iddo oedd HEZEKIAH JONES, curad Methodistaidd Sully a Phorth Ceri, gerllaw'r Barri, a JACOB JONES o'r Hendre, awdur marwnad boblogaidd i ' Williams Pantycelyn.' Bu farw 20 Ionawr 1821, yn 63 oed yn ôl ei feddfaen, a'i gladdu yn Sain Ffagan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.