Ganwyd yn y Drefach (Llangeler) yn 1771. Gan ei fod â llaw gelfydd, prentisiwyd ef gyda gwneuthurwr clociau ac oriaduron, Yr oedd yn aelod gyda Bedyddwyr y Pant Teg gerllaw Castellnewydd Emlyn; dechreuodd bregethu a bu yn academi'r Bedyddwyr ym Mryste, 1788-92. Galwyd ef i fugeilio'r Pant Teg, ond bu'n well ganddo fynd i eglwys Back Lane, Abertawe. Er mai ymraniad Calfinaidd o Hen Dŷ Cwrdd Abertawe a roes fod i'r eglwys hon, amlygodd Jones yn fuan dueddiadau gwrth-Galfinaidd a'i harweiniodd ef yn y pen draw i Undodiaeth. Bu ganddo ran flaenllaw yn nadleuon 1794-9 ymhlith Bedyddwyr y de-orllewin; odid nad efe oedd y dadleuwr galluocaf a thecaf ar yr ochr wrth-Galfinaidd. Ymadawodd â Back Lane yn 1800 (dilynwyd ef yno yn 1801 gan Joseph Harris ' Gomer '), i fugeilio Bedyddwyr Cyffredinol Trowbridge. Bu farw yno 14 Mawrth 1810, yn ei 40fed flwydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.