Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
mab Edward Jones, Maesyplwm, Llanrhaeadr, sir Ddinbych. Pan nad oedd ond 15 oed gwnaeth adduned yn eglwys fechan Llynypandy, gerllaw yr Wyddgrug, i'w roddi ei hun i wasanaeth yr efengyl, a chan ei fod mor dduwiolfrydig edrychid arno fel un cymwys i'r weinidogaeth ac, yn ddiweddarach, i wasanaethu ar faes y genhadaeth. Aeth i Goleg y Bala yn 1842 a mynd oddi yno, yn 1844, i Lundain am gwrs pellach i'w gymhwyso i fod yn genhadwr. Wedi ei ordeinio bu'n gwasanaethu eglwysi o Rossett, gerllaw Wrecsam. Hwyliodd ef a'i wraig, Ann Evans, i'r India yn 1845, a chyrraedd Bryniau Khassia y flwyddyn ganlynol. Wedi iddo fod am beth amser yn archwilio'r mannau pellennig dychwelodd i orsaf y maes yn Cherappoonjee i ymofyn adnoddau, eithr bu farw yno o dwymyn y 'jungle' a'i gladdu, efe a'i ferch fechan, gyda'i gilydd, yng nghladdfa'r genhadaeth ar 3 Rhagfyr 1846. [Ganwyd 12 Medi 1813 - Not. W. ]
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.