Ganwyd yn Nhan-y-Waen, Prion, Llanrhaeadr yng Nghinmerch, 19 Mawrth 1761, yn fab i John Jones, amaethwr, a'i wraig Ann, ferch William Williams, Rhyd-y-Cilgwyn. Pan oedd ef tua blwydd oed symudodd y teulu i fyw ym Mryn-y-gwynt-isaf yn yr un plwyf. Bu'r tad farw pan oedd ef tua 10 oed. Ychydig o ysgol a gafodd, a hynny dan Daniel Lloyd, gweinidog yr Annibynwyr yn Ninbych, ond gwnaeth ei orau i'w ddiwyllio'i hun ac ymddiddori mewn prydyddiaeth o'i blentyndod. Pan oedd tua 22 oed bu am gyfnod byr mewn ysgol yng Nghaer. Priododd Jane Pierce, Rhewl, ar ddydd olaf 1784, a buont fyw naw mlynedd ym Mryn-y-gwynt, lle y ganwyd iddynt bedwar o blant. Nos Fawrth y Pasg, 1787, ymunodd â'r seiat ym mharlwr Mrs. Ann Parry, yn y Bryn Mulan. Bu farw ei wraig yn 1794, a'r flwyddyn wedyn priododd Margaret, ferch John Roberts, y Tŷ Mawr, Green, Dinbych, o'r hon y bu iddo 13 o blant. Tua 1796, symudasant i fyw yn Nhŷ Newydd Pont Ystrad, yna i Ben-y-Banc, ac oddi yno i Faes-y-plwm, enw a lynodd wrtho. Bu'n cadw ysgol Saesneg am ysbeidiau yn y Prion ac yn gweithio yn swyddfa'r tollau yn Lerpwl. Bu gofal ysgol Dinbych arno am ychydig ar ôl marw Daniel Lloyd. Yn 1805 aeth i Gaer i arolygu cyhoedd cyfieithiad Cymraeg o Feibl Samuel Clarke dros J. Humphreys, Caerwys. Wedi dychwelyd i Brion dewiswyd ef yn flaenor. Bu ei ail wraig farw yn 1818. Yn Ionawr 1825, rhoes fferm Maes-y-plwm drosodd i'w fab, Edward, ac aeth i gadw ysgol yng nghapel y Methodistiaid yn Llyn-y-Pandy, Sir y Fflint. Symudodd oddi yno i Gilcain, eto i gadw ysgol, yn 1829, ac yno y bu farw 27 Rhagfyr 1836. Ym mynwent Llanrhaeadr y claddwyd ef, 31 Rhagfyr.
Gŵr amryddawn ydoedd, bardd galluog a nodweddid gan ei hoffter at gyffyrddiadau cynganeddol, ond ni adawodd ond corff bychan o farddoniaeth ar ei ôl - marwnadau, carolau, ac emynau, yn bennaf. Ymddangosodd ei waith cyntaf, Hymnau … ar Amryw Destynau, yn 1810, wedi ei argraffu yn Ninbych; adargraffiadau gyda chyfnewidiadau yn 1820 a 1829. Yn 1831, cyhoeddodd gerdd ddychan, Gwialen i gefn yr ynfyd, yn ateb i lyfr Edward Jones '3ydd', gweinidog y Wesleaid yn Llanidloes. Ei unig lwyddiant eisteddfodol oedd 'Cân ar Ffolineb Swyngyfaredd' a wobrwywyd yn y Trallwng, 1824. Erys rhai o'i emynau yn boblogaidd gan gynulleidfaoedd, yn arbennig 'Mae'n llond y Nefoedd,' 'Cyfamod Hedd,' a 'Pob seraff, pob sant.' Cyhoeddodd ei feibion, John a Daniel, weddillion ei brydyddiaeth yn eu Cofiant iddo yn 1839. Er iddo adael gorchymyn i ddinistrio ei holl ganiadau anorffenedig, y mae un llawysgrif y dechreuodd ei hysgrifennu yn 1789, gyda dyddiadur ei fab DANIEL JONES (1813 - 1846) yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dechreuodd yntau hefyd ei yrfa fel ysgolfeistr, ond yn 1846 aeth yn genhadwr i Fryniau Casia, a bu farw yno 2 Rhagfyr yr un flwyddyn, a'i gladdu yn Cherrapoonjee. Bu mab arall, JOHN JONES (1787 - 1860) yn ysgolfeistr ac yna yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Runcorn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.