Ganwyd yn nyffryn Ceidrych, Llangadog. Cafodd beth addysg, ac'aeth yn saer maen. Bedyddiwyd ef, yn 27 oed, gan Moses Williams, gweinidog Bedyddwyr Cyffredinol Pontbren-Araeth, yn 1799. Yn y rhwyg a ddaeth ar Fedyddwyr y de-orllewin yn y flwyddyn honno, meddiannodd y blaid Arminaidd yn Salem Llangyfelach dŷ cwrdd bychan yng Nghlydach (Cwm Tawe) o'r enw ' Capel-y-Cwar,' a godwyd gan Salem yn 1795. Yn 1804, ar gymhelliad Moses Williams, urddwyd David Jones yn weinidog arnynt - noder nad oedd ef na hwythau na Moses Williams, ar hyd yr amser, yn ddim ond Arminiaid Trindodaidd. Bu David Jones yno am 50 mlynedd; llafuriai'n ddiwyd, gan bregethu yn y Cwar, yn Foxhole (Llansamlet), yn Nhreforris, ac ym Mhontardawe, heblaw cadw ysgol yn y Cwar ac yn Foxhole (W. Samlet Williams, Hanes Llansamlet, 94); câi ddogn blynyddol o drysorfa'r Bedyddwyr Cyffredinol yn Llundain, o 1818 hyd ei farwolaeth. Yn 1848, edrydd fod ganddo 50 o aelodau. Ond cododd y Bedyddwyr Neilltuol gapel (Bethania) yng Nghlydach yn 1841, a chorfforwyd eglwys ynddo yn 1844. O dipyn i beth, llithrai'r Arminiaid drosodd i Fethania, a theyrngarwch i'r hen weinidog yn unig a gadwai eglwys y Cwar ar ei thraed. Bu David Jones farw 24 Ionawr 1854, yn 81 mlwydd oed. Aeth yr 11 aelod gweddill yn unfryd i Fethania.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.