Brodor o Lanfynydd (Caerfyrddin), ond yn Llandyfân y bedyddiwyd ef, ac y dechreuodd bregethu - cyn 1792, gellid meddwl. Ni ddygymyddai â Chalfiniaeth nac â thueddiadau ' Methodistaidd ' y mwyafrif o'i gyd- Fedyddwyr; fe'i gwelir yn 1794, a thrachefn yn 1796 (Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1930, 39 a 40) yn ochri yn y 'cwrdd chwarter' â'r blaid aswy, gan ddal (megis J. R. Jones o Ramoth) mai crediniaeth noeth yw 'ffydd.' Yn 1797, urddwyd ef yn weinidog Llandyfan, ac yn 1798 plannodd eglwys arall ym Mhontbren-araeth ym mhlwyf Llangadog. Pan ddaeth rhwyg 1799, aeth ef a'i ddwy eglwys allan o gymanfa'r Bedyddwyr Neilltuol, eto gan barhau'n Drindodwyr; croesawodd Williams ddyfodiad y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg i'r ardaloedd hynny, a gwelir ef yn 1806 (A History of Carmarthenshire, ii, 253) yn pregethu yn y capel Wesleaidd yng Nghaerfyrddin. Pregethodd yng nghymanfa'r Bedyddwyr Cyffredinol yng Nghastellnewydd Emlyn fis Mai 1807 (Monthly Repository, 1807, 333), ond y mae'n eglur yn 1809 (ibid., 1809, 695) mai ' John Griffiths ' oedd ar y blaen erbyn hynny yn Llandyfân - am hwn, ac am hanes diweddarach yr achos (Undodaidd bellach) yno, gweler T. Oswald Williams yn Ymofynnydd 1930, 41-6. Bu cenhadaeth egnïol Griffiths yn ddraen yn ystlys Williams, a phrofodd ei arswyd rhag Undodiaeth yn drech na'r cymhellion a'i harweiniodd gynt i ymado a'r Bedyddwyr Calfinaidd. Derbyniwyd ef yn ôl i'w hen enwad yng 'nghwrdd chwarter' y Pasg, 1814, yn y Felin-foel; a dilynwyd ef (1815) gan y mwyafrif yn Llandyfan. Nid ymddengys iddo barhau i bregethu (yn sicr, ni bu ganddo ofalaeth wedyn); ymgynhaliai ar ei grefft fel gof gerllaw Abertawe. Bu farw fis Rhagfyr 1819; canmolir ef fel gŵr ' pwyllog, cydwybodol, a duwiol.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.