Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd yng Nghwm Creigiau Fach, Sir Gaerfyrddin, 11 Chwefror 1793, yn fab i'r Parch. Thomas Jones, Caerfyrddin. Cafodd addysg dda, yn breifat i ddechrau, ac yna yn ysgol David Peter yng Nghaerfyrddin, yn y Coleg Presbyteraidd yn yr un dref, ac yng Ngholeg Cheshunt, Swydd Hertford. Astudiodd Arabeg, Syrieg, a Pherseg yn ogystal â Hebraeg a'r ieithoedd clasurol. Ordeiniwyd ef yn 1814, ac yn 1821, ar ôl bod yn Henffordd am gyfnod, aeth yn weinidog i Abertawe fel olynydd i'r Parch. W. Kemp. Torrodd ei iechyd i lawr, a gorfu iddo dreulio gaeaf 1823-4 yn neheudir Ffrainc; ar ei ffordd adref ymwelodd â Llydaw. Dychwelodd i Lydaw ddiwedd 1824 ar anogaeth y Feibl Gymdeithas, dechreuodd ddysgu Llydaweg ei hunan, a gwnaeth lawer i gael cyfieithiad o'r Testament Newydd i'r iaith honno. Bu farw yn Cheshunt 1 Medi 1825, ychydig wythnosau ar ôl cael ei benodi'n athro clasuron yno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.