Ganwyd, yn ôl Y Gwyddoniadur, yn yr Esgair ym mhlwyf Llanpumsaint, ond yn ôl eraill bwriodd ei febyd yn Nhrebedw, Capel Drindod, Ceredigion. Sut bynnag, bu fyw yn Llanpumsaint yn ddigon hir i'r lle gael ei gysylltu â'i enw ar lafar gwlad. Symudodd i Gaerfyrddin, yn bennaf i arolygu argraffu; yr oedd yno yn 1796, a'r traddodiad yw mai ef a arolygodd argraffiad 1796 o Feibl Peter Williams. Ond gwyddys mai eraill a arolygodd hwnnw; ac awgrymodd D. E. Jenkins mai gorchwyl Thomas Jones oedd arolygu argraffiad 1796 o ' Feibl John Canne ' - argraffiad y bwriedid iddo gystadlu ag argraffiad Peter Williams a David Jones o'r gwaith hwnnw.
Daeth Thomas Jones yn golofn ym Methodistiaeth y dref, ac yr oedd yn un o ymddiriedolwyr y capel a godwyd yno yn 1813. Pregethai yn Gymraeg ac yn Saesneg, nid yn unig i'r Methodistiaid ond hefyd i'r Huntigdoniaid, ar hyd ac ar led Cymru; ni chafwyd gwybod pa bryd yr ordeiniwyd ef - nid yn 1811 fel y dywedir weithiau. Cyhoeddodd ddau holwyddoreg; ond y mae'n llawer mwy adnabyddus fel esboniwr - y cyntaf yn ei gyfundeb. Cyhoeddodd esboniadau (Sylwadau y galwai ef hwy) ar y Pumllyfr, 1809-12; Job, 1818; Caniad Solomon, 1820; a'r Hebreaid, 1830. Bu farw 17 neu 18 Ionawr 1831, 'yn 70 oed,' a chladdwyd o flaen capel Heol-y-dwr.
Mab iddo oedd David Jones (1793 - 1825).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.