JONES, DAVID (1797 - 1841), cenhadwr

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1797
Dyddiad marw: 1841
Priod: Louisa Jones (née Darby)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Cenhadwr ym Madagascar am yn agos i chwarter canrif o dan nawdd Cymdeithas Genhadol Llundain; ganwyd yn Penrhiw, gerllaw Neuadd-lwyd, Sir Aberteifi. Yn 14 oed aeth i athrofa Dr. Thomas Phillips yn Neuadd-lwyd, a phan oedd yn 16 oed dechreuodd deimlo y carai bregethu. Bu wedyn o dan addysg yn Llanfyllin a Gosport. Fe'i cynigiodd ei hun i wasanaeth Cymdeithas Genhadol Llundain, ordeiniwyd ef yn Neuadd-lwyd, 20 a 21 Awst 1817, ac fe'i dewiswyd i fyned i Affrica. Priododd Louisa Darby, Gosport. Cafodd ei anfon i Madagascar yn lle Stephen Laidler; glaniodd yn 1818, a bu'n wael iawn o dan dwymyn; claddodd ei wraig, a'i blentyn yn Tamatave. Ymsefydlodd yn Antananarivo yn 1820. Gyda David Griffiths, cyfieithodd y Beibl yn iaith y Malagasy, a chyda chynhorthwy David Johns, cyhoeddodd lyfr sillebu, catecism, ac emyniadur. Gorfu iddo ymadael, eithr parhaodd i ddefnyddio Mauritius fel gorsaf i efengyleiddio ohoni; bu farw yno ym mis Medi 1841.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.