Ganwyd yng Nghaerffili yn 1768. Yr oedd yn un o delynorion gorau ei gyfnod; dywedir y byddai ysgafnder a llyfnder ei chwarae yn dwyn miwsig melys o'r tannau. Cafodd wersi ar y delyn gan Sackville Gwynne, Glanbran. Gallai ganu llawer o'r alawon Seisnig yn ogystal â'r alawon Cymreig ar ei delyn deir-res. Cyfansoddodd yr alaw a adwaenir tan yr enw ' Caerffili March.'
Bu farw yng Nghaerffili, 17 Rhagfyr 1813.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.