Ganwyd 28 Awst 1827 yn Waunwthan, plwyf Llangeler, Sir Gaerfyrddin, mab John ac Elizabeth Jones, Penybanc, Closygraig. Pan oedd yn ddwyflwydd oed symudodd ei rieni i gartref y fam, sef Penybanc. Cafodd ei addysg foreol mewn ysgol a gynhelid yng nghapel Saron, Llangeler. Pan oedd yn 12 oed aeth am dair blynedd i ysgol ramadeg yng Nghastellnewydd Emlyn a gedwid gan yr Undodwr J. Davies (1795 - 1858). Wedyn, ar ôl blwyddyn yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, bu yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin am bum mlynedd; dechreuodd bregethu yn 17 oed, sef pan oedd yn y coleg. Yn 1849 enillodd 'Ysgoloriaeth Dr. Williams' - y Methodist Calfinaidd cyntaf i'w hennill - ac aeth i Brifysgol Glasgow; graddiodd yno yn 1852 a dyfarnwyd iddo fedal aur 'Lord Jeffreys' am mai efe oedd ysgolhaig Groeg gorau y flwyddyn. Wedi hynny bu ym mhrifysgolion Goettingen a Halle, gan raddio'n Ph.D. o Halle. Ordeiniwyd ef yn 1859. O 1865 hyd ei farwolaeth bu'n athro'r clasuron yng Ngholeg Trefeca. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r De yn 1879. Fe'i hoffid yn fawr gan ei efrydwyr, ac yr oedd galw mawr arno fel pregethwr. Bu farw 21 Gorffennaf 1885 yn Southport a chladdwyd ef yn Closygraig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.