Ganwyd ym mhlwyf Cemaes Sir Drefaldwyn, i deulu crefyddol a oedd yn aelodau gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Aeth i'r Drefnewydd i ddilyn ei alwedigaeth fel gwehydd. Derbyniwyd ef yn aelod ym Mwlch-y-ffridd ychydig o'r dref, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu'n egniol gyda'r gwaith crefyddol yn y dref gan helpu i baratoi'r ffordd i sefydlu eglwys Annibynnol Gymraeg yno. Bu'n fyfyriwr yn athrofa Annibynnol y Drefnewydd, 1823-7; yr oedd Samuel Roberts ('S.R.') ac amryw o brif oleuadau Annibynwyr ei gyfnod yn gydefrydwyr. Bu'n weinidog Saron, Tredegar, sir Fynwy, 1827-45, a Heol Awst, Caerfyrddin, 1845-72. Aeth i sir Fynwy yn nyddiau cynnar y mudiad diwydiannol pan oedd eglwysi'r Annibynwyr braidd yn ddigyswllt a didrefn, eithr cymerth ef at y gorchwyl o roddi trefn ar yr eglwysi; drwgdybid ef o fod yn anheyrngar i hen drefn yr Annibynwyr. Efe oedd oracl yr enwad yn y sir; yr oedd yn fedrus mewn dadl ac ysgrif, ac yn siaradwr heb ei ail ar y llwyfan cyhoeddus. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau tra bu ym Mynwy. Symudodd i Heol Awst, Caerfyrddin, yn 1845. Yma eto, amheuid ef o 'bresbytereiddio,' a chan nad oedd ar delerau da â David Rees o Lanelli, caewyd amryw bulpudau rhagddo. Daeth yn amlwg fel amddiffynnydd gwneuthur addysg plant yn orfodol ar y trethi. Canodd yn iach i'r llwyfan cyhoeddus ar ôl hyn, gan ei gyfyngu'i hun yn llwyr i waith yr eglwys yn Heol Awst. Bu farw 5 Mawrth 1872.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.