Ganwyd yn 1794 mewn tŷ to gwellt a elwid Plas-yn-pant, Ponciau, yn fab i Thomas ac Elisabeth Jones. Glöwr ydoedd yn nyddiau ei lencyndod, ond ar waethaf y creithiau glas a oedd ar ei wyneb, ni fynnai gydnabod ei alwedigaeth wreiddiol. Daeth o dan ddylanwad pregethu 'Williams o'r Wern,' ac yn fuan wedi ymaelodi gyda'r Annibynwyr dechreuodd bregethu. Bu yn athrofa Hackney cyn ei ordeinio i'r weinidogaeth. Gweinidogaeth symudol a fu ei eiddo gan na feddai'r gallu lleiaf i drin dynion. Dychwelodd i'w fro enedigol yn 1847 ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau. Bu farw 9 Medi 1876, a chladdwyd ef yn y Wern. Yr oedd yn bregethwr anghyffredin, a dywedid y medrai ar adegau fod mor rymus â Williams o'r Wern. Aeth yn enwog am ei ffraethineb a'i ddywediadau gwreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.