Ganwyd yn Llandwrog, 26 Rhagfyr 1825, mab Richard Jones ('Callestr Fardd'). Ymunodd y tad a'r mab â'r Cymreigyddion lleol ac â'r Wesleaid ym Methesda. Ychydig o addysg fore a gawsai, ond llwyddodd i'w ddiwyllio ei hun. Dechreuodd bregethu yng Nghorris, ac aeth am dymor i Goleg Normal Abertawe. Gweinidogaethodd ar gylchdeithiau yr Wyddgrug (1854), Abergele (1856), Llanfyllan (1858), Tregarth (1860), Caergybi (1863), Lerpwl (1866), Tregarth (1869), Bangor (1872), y Rhyl (1875), Shaw Street, Lerpwl (1878), Bangor (1881), Caernarfon (1884), a Thregarth (1885). Ymneilltuodd yn 1887, a bu farw 17 Rhagfyr 1889.
Ymddiddorai mewn barddoniaeth, gwleidyddiaeth, a cherddoriaeth, ond athroniaeth a diwinyddiaeth oedd ei hoff feysydd, ac ysgrifennodd lawer arnynt i'r cylchgronau. Golygodd Y Winllan, 1870-3, a bu'n gofalu am ei cherddoriaeth am rai blynyddoedd; bu hefyd ar fwrdd golygyddol Y Gwyliedydd. Ysgrifennodd Traethawd ar Resymeg, 1857, Athrawiaeth yr Iawn, 1861 (adolygiad ar lyfr Lewis Edwards), Penarglwyddiaeth Duw, 1873, Y Beibl, 1875 (pryddest anfuddugol yn eisteddfod Bangor, 1874), Ameuyddiaeth, 1877.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.