Ganwyd yn Nhyddyn-Dafydd-Ddu, plwyf Llandwrog, Sir Gaernarfon, ond fe'i magwyd yn nhref Caernarfon hyd yn 17 oed, a bu yn ysgol un Thomas Brown. Anfonwyd ef i'r Wyddgrug i ddysgu gwaith eilliwr. Wedi dwy flynedd dychwelodd at ei deulu, a oedd erbyn hynny yn byw yn Amlwch, Môn. Argyhoeddwyd ef yn adeg ymweliad Dafydd Morris o'r Deheudir â Môn, a dechreuodd bregethu yn 1784. Gŵr cadarn, nerthol, ydoedd a'i weinidogaeth yn llym ac argyhoeddiadol. Sonnir amdano yn dychwelyd 180 mewn un oedfa. Pan oedd yn 35 oed priododd Mary Williams, etifeddes Penybryn, Edern, ac yno y bwriodd weddill ei oes. Ordeiniwyd ef yn 1814. Bu farw 9 Awst 1822.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.