Ganwyd yn Derwydd, ger Llandebie, 17 Awst 1772. Er bod ei addysg gynnar yn ddigon prin dywedir iddo ymgyfarwyddo â'r clasuron. Bu'n athro yn Wimbledon am gyfnod, a chael (Syr) Robert Peel yn un o'i ddisgyblion. Astudiodd wedi hynny yn yr Almaen, a chael gradd LL.D. ym Mhrifysgol Jena. Ar ôl dychwelyd i Brydain ymrodd i'r gyfraith, daeth yn fargyfreithiwr, ac aeth ar gylchdaith Rhydychen a Deheudir Cymru. Yr oedd yn llwyddiannus iawn am gyfnod ond, wrth amdiffyn rhyw berson tlawd, beirniadodd weinyddwyr y gyfraith nes eu digio'n fawr. O ganlyniad fe'i cafodd ei hun yn ddiwaith; bu farw'n dlawd yn St. James's Street, Islington, ar 28 Medi 1837.
Yr oedd yn ysgolhaig da mewn Groeg; darllenasai'n eang ymhlith hanes y gwledydd mewn llawysgrifau, ond amharodd ei ragfarnau cryfion ar ei werth fel hanesydd. Cynnwys ei waith cyhoeddedig (a) Translation from the Danish of Dr. Bugge's Travels in the French Republic, 1801; (b) Y Cyfammod Newydd, yn cynnuys cyfieithiad cyffredinol y Pedair Efengyl … 1812 (priodolir hwn yn anghywir weithiau i'r Parch. J. Jones 1766? - 1827); (c) De Libellis Famosis; or the Law of Libel, 1812; (ch) History of Wales, 1824; Cafwyd copi diwygiedig o (c) ymhlith ei bapurau wedi ei farw. Gadawodd hefyd mewn llawysgrif waith ar enwogion Cymru o amser Caswallon hyd ei gyfnod ef ('The Worthies of Wales … from Cassivelaunus to the present time'). Ymddangosodd llythyr ganddo ar Fadog, darganfyddwr honedig America, yn y Monthly Magazine yn 1819.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.