JONES, JOHN ('Idrisyn'; 1804 - 1887), clerigwr ac awdur

Enw: John Jones
Ffugenw: Idrisyn
Dyddiad geni: 1804
Dyddiad marw: 1887
Rhiant: Elizabeth Humffrey
Rhiant: William Humffrey
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Elwyn Evans

Ganwyd 20 Ionawr 1804 yn Nolgellau, mab William Humffrey, saer, ac Elizabeth. Yn 1818 fe'i prentisiwyd gyda Richard Jones, argraffydd a chyhoeddwr Yr Eurgrawn Wesleyaidd. Symudodd i Lanfair Caereinion gyda swyddfa'r Eurgrawn tua 1824, ac oddi yno aeth i Lanidloes. Yno yn 1830 y dechreuodd ar ei waith fel argraffydd a chyhoeddwr. Pregethai gyda'r Wesleaid a bu'n faer y dref yn 1852. Ym Medi 1853 fe'i hordeiniwyd yn ddiacon gan esgob Tyddewi a'i benodi'n gurad Llandysul, Sir Aberteifi. Daeth yn offeiriad ym Medi 1854 ac yn ficer Llandysiliogogo yn 1858. Yn 1881 cafodd bensiwn o'r 'Civil List.' Bu farw yn y Cei Newydd ar 17 Awst a'i gladdu yn Llandysiliogogo.

Cyhoeddodd tua 12 o lyfrau. Y mwyaf adnabyddus oedd Dehongliad Beirniadol ar yr Hen Destament a'r Newydd yn bum cyfrol (Llanidloes, 1852). Ymhlith ei lyfrau eraill ceir Yr Esboniad Beirniadol (6 chyfrol, Llanidloes, 1845) a'i gyfieithiad o ddyddlyfr y frenhines Victoria - Dalenau o Ddyddlyfr ein Bywyd yn yr Ucheldiroedd (Caerfyrddin, 1868).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.