Ganwyd yn 1810 neu'n gynnar yn 1811 - rhoddir ei oedran yn 33 pan gyrhaeddodd i Tasmania yng Ngorffennaf 1844. Ym Merthyr Tydfil y ganed ef, meddai dogfennau'r heddlu, ond llysenwyd ef ar ôl fferm y Sgubor-fawr ym Mhenderyn - naill ai am i'w dad (meddir) fyw yno neu am iddo ef ei hunan fod yn was yno. Pan alltudiwyd ef, ei unig berthynas agos oedd ei frawd Solomon, yn byw yn America. Yr oedd o daldra cymedrol, a chanddo farf; gallai ddarllen a sgrifennu rhyw gymaint; ac yr oedd yn Fedyddiwr.
Ni wyddys fawr am ei ddyddiau bore. Dywed yr heddlu mai 'sinciwr' pyllau glo ydoedd, ond tystia sgrifennwr pur ddibynnol mai 'brass-fitter.' Ymddengys iddo symud o Ferthyr i Aberhonddu oblegid cawn i'r cyrnol Thomas Wood (gweler dan 'Williams, Gwernyfed'), yr aelod seneddol dros Frycheiniog, ei restru'n 'gwnstabl arbennig' yn Aberhonddu yn ystod etholiad - yn nes ymlaen, rhoes Wood dystiolaeth mewn sgrifen ar ei ran. Ymddengys iddo am dymor filwrio yn y '98th Foot,' ac iddo'r pryd hynny ddyfal gasglu gwybodaeth i'r awdurdodau tuag at ddileu'r 'Scotch Cattle' yn rhannau diwydiannol sir Fynwy - plediwyd hyn hefyd ar ei ran yn ddiweddarach i geisio tyneru'r gosb arno. Yna, daeth yn baffiwr; dathlwyd agoriad y Taff Vale Railway (1840) â gornest a dyrnau moelion rhwng Shoni a phencampwr Cyfarthfa, John Nash. Cofid yn y dyddiau wedyn fod Shoni'n ddiffynnwr anifeiliaid, ac iddo roi curfa i ryw helwyr am gam-drin eu ceffylau.
Dygwyd ef o flaen ustusiaid Merthyr Tydfil fis Mawrth 1843 am fod yn feddw ac afreolus, ond rhyddhawyd ef ar addewid o 'fyw bywyd gwell'; eithr ym mis Mai wele ef o flaen mainc Abertawe ar gyffelyb gyhuddiad. Aeth wedyn i weithio yn ardal Pontyberem, a chyflogwyd ef gan arweinwyr terfysg 'Beca' i gymryd llaw yn eu gwaith - telid iddo o ddeuswllt i bumswllt y noson am ei wasanaeth. Cyflogwyd ef i losgi ffermydd ustus a oedd wedi digio 'Beca'; ar yr achlysur hwnnw, saethwyd ceffyl o eiddo'r ustus, a throchodd Shoni a'i bartneriaid eu dwylo yng ngwaed hwnnw fel math o sagrafen. Bu wrthi'n dryllio sawl tollglwyd; ac ar 25 Awst gwnaeth gryn alanastra ym mhentref Pontyberem mewn ffrae feddw. Codai ei arswyd ar y fro, a gwasgai arian allan o'r ffermwyr, gan fygwth datguddio i'r awdurdodau eu bod ymhlaid 'Beca.' Ond cymerwyd ef i'r ddalfa yn y Tymbl ar 28 Medi; profwyd ef yn y frawdlys yng Nghaerfyrddin, a dedfrydwyd ef (22 Rhagfyr) i'w alltudio am ei oes - nid, fel y dywedir yn gyffredin, am ddryllio clwydydd, ond am saethu'n fwriadol at ryw Walter Rees, yn y New Inn, Pontyberem. Chwarddodd wrth glywed y ddedfryd. Yn y carchar, bradychodd enwau nifer o'i gyd-derfysgwyr.
Symudwyd ef o garchar Caerfyrddin, 5 Chwefror 1844, i Millbank, yng nghwmni 'Dai'r Cantwr' (David Davies, 1812? - 1874); ond ar 8 Mawrth (nid gyda 'Dai' y tro hwn) rhoddwyd ef ar y llong Blundell, a glaniodd yn Norfolk Island (math o garchar paratoi) ar 6 Gorffennaf. Yno y bu nes ei symud i 'Van Diemen's Land' (Tasmania), 8 Ebrill 1847. Rhoddwyd ef yno yng ngwasanaeth amryw bobl, ond yr oedd byth a hefyd mewn helynt - am ddwyn pytatws, am wrthod gweithio heb gael dogn helaethach o fwyd, am feddwi a therfysgu, etc., a chafodd amryw gyfnodau o lafur caled ac o garchar unig. Rhoddwyd 'ticket of leave' iddo ar 19 Medi 1854, ond tynnwyd hi'n ôl ar 8 Rhagfyr, a rhoi deunaw mis o lafur caled iddo am ymosodiad. Rhyddhawyd ef cyn terfyn y tymor hwnnw, ond ar 10 Mawrth 1856 cafodd dri mis eto o lafur caled, am feddwdod. O'r diwedd, cafodd 'ticket of leave' ar 2 Rhagfyr 1856, a phardwn amodol ar 20 Ebrill 1858. Serch hynny, parhaodd i droseddu ac i gael ei garcharu. Yn y pen draw fe’i cafwyd yn euog o gael cyfathrach rywiol â merch ddeudeg oed ar 31 Mawrth 1863, ac fe’i dedfrydwyd i Port Arthur, lle bu farw ar 24 Rhagfyr 1867. Priodol ddigon yw'r disgrifiad cyfoes ohono: 'a halfwitted and inebriate ruffian.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.