JONES, JOHN (1837 - 1906), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1837
Dyddiad marw: 1906
Rhiant: George Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganed fis Rhagfyr 1837 yn fab i George Jones, Abercin (Abercain), Llanystumdwy - gweler Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1945, 46-8, 54, a'r ach yn J. E. Griffith, Pedigrees, 211 (er nad yw'r gainc neilltuol hon ynddi).

Bu'n was mewn siopau dillad yng Nghaernarfon a Llundain, ond dechreuodd bregethu ac aeth i Goleg y Bala yn 1861. Ordeiniwyd ef yn 1863, ond ar wahân i gyfnod byr (1872-8) pan oedd yn fugail Capel y Graig gerllaw Bangor, ni bu'n fugail eglwys.

Priododd â merch i David Jones, Treborth. Bu am rai blynyddoedd ar ôl 1878 yn oruchwyliwr banc preifat (teuluol) 'Pugh, Jones & Co.' ym Methesda, ond dychwelodd i Bwllheli (lle'r oedd wedi byw cyn mynd i'r Graig), ac yno y bu farw, 19 neu 20 Mehefin 1906; yn Glanadda, Bangor, y claddwyd ef.

Yr oedd yn weddol dda ei fyd; teithiodd lawer; ymhoffai mewn daeareg a daearyddiaeth, a sgrifennodd lawer ar y pynciau hyn i'r Traethodydd. Cyhoeddodd hefyd gofiannau i ddau weindog hynod, Michael Roberts o Bwllheli a John Jones, Bryn'rodyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.